Arfon Wyn
Mae'r casgliad hwn yn cynnwys amrywiaeth o garolau fydd yn apelio at blant a phobl ifainc o bob oed. Bu nifer o'r carolau'n fuddugol yn y gystadleuaeth flynyddol 'Carol Ni' a drefnir gan BBC Radio Cymru. Mae rhai yn hen ffefrynnau - mae Y Gair N.A.D.O.L.I.G. a Ymysg Bugeiliaid eisoes wedi'u perfformio a'u recordio gan sawl artist.
Mae Arfon Wyn unwaith eto wedi llwyddo i ddod â ffresni ac ysbrydoliaeth i stori a thema cyfarwydd. Mae'r cyfan o'r caneuon yn hynod atyniadol a chanadwy a'r carolau wedi'u trefnu mewn ffordd sydd yn rhoi cyfle i ychwanegu at y gerddoriaeth. Yr un modd, cynhwysir awgrymiadau ymarferol ar sut i ddefnyddio offerynnau taro ac ati gyda'r carolau. Mae cyfle, felly, i ddefnyddio pa bynnag adnoddau sydd ar gael yn eich ysgol neu ysgol Sul i berfformio'r carolau gwych hyn.
- Y Nadolig Cyntaf Un
- Cannwyll Ddisglair
- Bydded Heddwch Trwy y Byd
- Carol Ein Diolch
- Ymysg Bugeiliaid
- Y Gair N.A.D.O.L.I.G.
- Ganwyd i Ni Frenin
- Yr Anrheg Ddrud
- Brenin y Tlawd
- Carol Mecsico
- Dewch i Weld y Baban
- Yno Gyda'r Iesu
This collection contains an excellent cross-section of carols that will appeal to children and young people of all ages. Many of the carols have been past winners of the BBC Radio Cymru competition, 'Carol Ni' whilst others are old favourites - Y Gair N.A.D.O.L.I.G. and Ymysg Bugeiliaid have already been performed and recorded by various artists.
Arfon Wyn has once again succeeded in bringing freshness and inspiration to the age old story. The songs are very attractive and memorable and the arrangements offer an opportunity to add to the music. Practical suggestions as to the addition of percussion instruments are also included.
The volume provides an ideal opportunity to use whatever resources are available in the school or Sunday school to perform these attractive carols.
This book is in Welsh only.
Additional information
Weight | 215 g |
---|