Hanes creu popeth yn y byd

SKU: 1078 Categorïau: ,

£12.99

Gwybodaeth ychwanegol

Weight 222 g
Iaith

Cyfeiliant

Cyfansoddwr

Hanes creu popeth yn y byd - llyfr o cylch o 7 cân gan Robat Arwyn a'r geiriau gan Mererid Hopwood sy'n addas i gorau o bob oed a nifer o ddewisiadau lleisiol. Portreadu sgwrs mae'r caneuon, rhwng y genhedlaeth iau a'r genhedlaeth hŷn, gyda'r naill yn gofyn i'r llall 'O ble ddaeth y byd?' Esbonnir y cyfan yn ôl y drefn a geir yn Genesis. Bwriadwyd i'r caneuon fod mor hyblyg â phosibl fel bod modd i gorau a phartion cynradd, uwchradd ac oedolion, neu gyfuniad o'r tri, eu perfformio, a hynny fel cyfanwaith ar ei hyd, neu fel caneuon unigol. Bydd Hanes Creu Popeth yn y Byd yn adnodd gwerthfawr i gorau a
phartion ledled Cymru.

PROLOG - Côr unsain neu ddeusain wedi ei rannu'n ddau grŵp

BYDDED GOLEUNI - Côr SA, SSA, SAB neu SATB

MAE'N RHAID CAEL TREFN - Côr unsain neu ddeusain

BYD HEB EI AIL - Côr SA neu SATB

PYLLAU GOLAU - Unawd

DO! - Côr unsain neu ddeusain wedi ei rannu'n ddau grŵp

GORFFWYS - Côr unsain, deusain neu SATB

Pe dymunir brynnu set ar gyfer côr, cysylltwch yn uniongyrchol i drafod gostyngiad.

Geiriau Cymraeg yn unig.

56 tudalen.

Gwybodaeth ychwanegol

Weight 222 g
Iaith

Cyfeiliant

Cyfansoddwr

Adolygiadau

There are no reviews yet.

Be the first to review “Hanes creu popeth yn y byd”

Your email address will not be published. Required fields are marked *