Alan Llewelyn Thomas

Yn gyn-ddisgybl Ysgol Ramadeg Llanelli, graddiodd Alan Llewelyn Thomas o Goleg Cerdd a Drama, Caerdydd. Wedi ennill ôl-radd, bu’n gweithio ym mydaddysg am 25 mlynedd, yn athro cerddoriaeth, yn Bennaeth Adran, Ymgynghorydd Cerdd ac yn Brifathro Cynorthwyol. Yn ogystal â hyn, bu’n arholwr lefel A a hefyd yn aelod o banel CBAC. Ar ôl curo cancr am y drydyddtro, gadawodd y byd addysg ac yn awr mae’n canolbwyntio yn llwyr ar gyfansoddi a pherfformio.

Mae Alan wedi bod yn aelod o nifer o gorau o bob math gan berfformio dros ybyd ac mae ei gyfansoddiadau yn adlewyrchu ei brofiad corawl a’i gariad at ganu.

Mae’n mwynhau cyfansoddi pob math o ddarnau corawl i amrywiaeth o leisiauond yn bennaf i leisiau merched. Yn 2016 perfformiwyd ei waith, Kyrie, yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi, ac mae ei waith Ubi Caritas wedi ei berfformio ganGôr Eglwys Gadeiriol Fetropolitan Dewi Sant, Caerdydd ym mhresenoldeb y Tywysog Charles. Mae’r gwaith yn ymddangos ar CD o garolau gan y côr.

Categori Cynnyrch

Iaith

Genre

Offeryn

Tonic Sol-Fa

Cyfeiliant

Cyfansoddwr