Eric Jones

Wedi ei eni a’i fagu ym Mhontarddulais, graddiodd Eric Jones mewn Cerddoriaeth o Brifysgol Cymru, Caerdydd. Cychwynnodd ei yrfa ddysgu yn Llanelli, cyn dod maes o law yn Bennaeth Cerddoriaeth a’r Celfyddydau Creadigol yn Ysgol Mynyddbach, Abertawe. Ar ôl cyfnod fel Dirprwy bennaeth yn Ysgol Gyfun G›yr, aeth yn Brifathro ar Ysgol Bro Myrddin, gan ymddeol yn 2006.

Mae’n Gymrawd Coleg Cerdd y Drindod Llundain, ac fe’i hurddwyd i Orsedd y Beirdd er anrhydedd am ei gyfraniad i gerddoriaeth yng Nghymru. Daeth yn Llywydd Côr Meibion Pontarddulais yn 2004 ar ôl gwasanaethu’r Côr fel Cyfeilydd am ddeunaw mlynedd rhwng 1973 a 1991.

Mae saith cyfrol o’i ganeuon wedi’u cyhoeddi ynghyd â nifer sylweddol o ddarnau corawl sy’n boblogaidd yng Nghymru ac yn fyd eang. Recordiwyd CD gan Sain, o Gôr Llanddarog a’r cylch – Gweithiau Corawl Eric Jones. (Sain SCD2752 www.sainwales.com). Hefyd, cyfansoddodd weithiau estynedig crefyddol yn ogystal â cherddoriaeth i’r theatr. Mae galw mawr amdano heddiw fel cyfansoddwr a beirniad ac mae’n brysur yn cyfansoddi nifer o ddarnau comisiwn. Mae’n briod â Gwen a chanddynt blant ac wyrion.

Am wybodaeth bellach gweler www.ericjones.cymru

Digidol/Caled

Categori Cynnyrch

Iaith

Genre

Offeryn

Tonic Sol-Fa

Cyfeiliant