Dilys Elwyn-Edwards

Ganed Dilys Elwyn-Edwards yn Nolgellau yn 1918. Mae’n cael ei chydnabod fel cyfansoddwraig lleisiol yn bennaf, ac mae’i chaneuon a’i cherddoriaeth gorawl yn boblogaidd iawn yng Nghymru a thu hwnt. Mae artistiaid fel Bryn Terfel, Gwyn Hughes-Jones, Rebecca Evans a Chor Coleg Sant Ioan, Caergrawnt i gyd wedi recordio a pherfformio ei chyfansoddiadau.

Bu’n astudio cyfansoddi gyda Herbert Howells yn Llundain ac mae ei harddull ysgafn yn apelio at amryw o gorau a chantorion. Bu farw yn 2012 yn 93 oed.

Categori Cynnyrch

Iaith

Genre

Offeryn

Cyfeiliant