John Metcalf

Ganwyd John Metcalf yn Abertawe ym 1946. Yn gyd-ddinesydd o’r Deyrnas Unedig a Chanada, fe’i hystyrir ymysg y mwyaf blaengar o gyfansoddwyr sydd yn gweithio yng Nghymru heddiw. Gan ddechrau yn y chwedegau hwyr, mae ei yrfa lwyddiannus fel cyfansoddwr eisoes yn cynnwys gweithiau amrywiol.

Mae ganddo weithiau mawr gan gynnwys pum opera. Gwelir aeddfedrwydd cynyddol yn ei weithiau diweddar sy’n cynnwys y Marimba Concerto bywiog (1991) a ysgrifennwyd ar gyfer Evelyn Glennie a Llyfr Lloffion y Delyn (1992), dyddiadur cerddorol o saith darn byr. Cyfansoddwyd Inner Landscapes ar gyfer y piano ym 1994 ac fe’i dilynwyd gan ragor o weithiau offerynnol pwysig; Rest in Reason, Move in Passion ar gyfer ffidil, sielo a phiano (1994), Paradise Haunts ar gyfer ffidil a phiano (1995) a Mountains Blue like Sea ar gyfer sielo a phiano (1996). Mae gweithiau eraill ar gyfer y piano yn cynnwys Never Odd or Even a Sky High Cloud Light, dau ddarn a gyfansoddwyd ym 1995 ar gyfer y grwp chwe-phiano ‘Piano Circus’.

Cafwyd perfformiad cyntaf o Museum of the Air (1998) yn ddiweddar yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd, gan Gerddorfa Genedlaethol y BBC a Della Jones. Mae hwn yn waith ar gyfer cerddorfa fawr ac unawdydd soprano i farddoniaeth gan Gwyneth Lewis.

Perfformir a darlledir cyfansoddiadau John Metcalf mewn amryw o wledydd y byd. Mae cwmni recordio Lorelt wedi gwneud sawl recordiad o’i gerddoriaeth. John yw Cyfarwyddwr Artistig Gwyl Gerddorol Abertawe yn ogystal a Gwyl Bro Morgannwg sydd yn gweithredu polisi o gyflwyno gweithiau gan gyfansoddwyr byw.

Categori Cynnyrch

Offeryn