Brian Hughes

Ganed Brian Hughes yn Rhosllannerchrugog, Wrecsam yn 1938. Mae ei weithiau corawl a lleisiol yn ddramatig a chyfoes ond yn gwbl hygyrch i’r gwrandawr. Mae’n derbyn comisiynau gan gorau a lliaws o grwpiau cerddorol yn gyson ledled Cymru a Lloegr.

Mae ei brofiad o hyfforddiant corawl fel cyn-arweinydd Cantorion Alun, Yr Wyddgrug a chorws-feistr Coleg Cerdd Brenhinol y Gogledd, Manceinion, yn golygu ei fod yn alluog iawn i ysgrifennu darnau corawl. Serch hynny, mae hefyd wedi cyfansoddi darnau ar gyfer cerddorfa lawn – Strata a Janus – yn ogystal a gweithiau siambr fel Quando ar gyfer clarinet a Darnau i Miriam ar gyfer ffliwt.
Mae Brian Hughes yn barod iawn i ddefnyddio amrywiaeth o effeithiau lleisiol yn ei gyfansoddiadau ar gyfer corau, os ydynt yn ychwanegu at y darlun cyfan y mae’n ceisio’i greu.

Am ragor o wybodaeth gweler www.brianhughes.uk.com

Digidol/Caled

Categori Cynnyrch

Iaith

Genre

Offeryn

Tonic Sol-Fa

Cyfeiliant