Gwybodaeth ychwanegol
Mae Sion a Sian yn ddarn ar gyfer lleisiau cymysg - SATB sy'n ddarn gosod yn Eisteddfod yr Urdd 2020. Cyfansoddwyd y gerddoriaeth gan Robat Arwyn. Gellir brynnu copiau caled fel arfer, neu yn yr achos hwn am gyfnod byr, drwydded i ganiatau i chi wneud hynny sydd angen o gopiau ar gyfer eich côr, a'ch côr chi yn unig er mwyn cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd. Mi fydd angen i chi ddanfon enw eich côr atom, a'r person sydd angen yr hawl i wneud copiau. Byddwn wedyn yn danfon atoch yn uniongyrchol, ffeil pdf efo rhif trwydded ac enw eich cor ar y ffeil pdf er mwyn i chi allu gwneud y copiau. Byddwn yn ceisio gwneud hyn o fewn yr un diwrnod os yn bosibl.
Noder nad oes hawl i wneud copiau o unrhyw fath o'r copiau caled. Mae copiau caled ar gael (pecyn o 10) o dan eitem CURIAD 3190.