Robat Arwyn
Yn enedigol o Dalysarn, Dyffryn Nantlle, cafodd Robat Arwyn ei addysg yn Ysgol Gynradd Talysarn ac Ysgol Uwchradd Dyffryn Nantlle. Mae ganddo radd mewn Cerddoriaeth o Brifysgol Caerdydd a Diploma mewn Llyfrgellyddiaeth o Aberystwyth. Mae’n aelod o Gôr Rhuthun a’r Cylch ers 1981, yn cyfeilio a chyfansoddi ar ei gyfer ers 1987, ac yn arwain y côr ers 2007. Bellach wedi ymddeol o’i waith, mae Robat Arwyn yn brysur yn cyfansoddi ac yn beirniadu mewn nifer o Eisteddfodau. Mae hefyd yn cyflwyno cyfres o gerddoriaeth amrywiol ar Radio Cymru ar foreau Sul. Mae’n briod â Mari, ac mae ganddynt ddau o blant.
Ysgrifennodd Atgof o’r Sêr ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych 2001, a chafodd Benedictus (allan o Er hwylio’r haul, gwaith comisiwn Eisteddfod Genedlaethol Eryri 2005) ei recordio’n wreiddiol gan Bryn Terfel a Rhys Meirion, cyn i The Priests ei chynnwys ar eu halbwm glasurol gyntaf yn 2008. Cyrhaeddodd honno Rhif 1 yn Iwerddon a Norwy, y 10 Uchaf yn y Ffindir, Seland Newydd, Sbaen, y Deyrnas Unedig, Denmarc, Gwlad Belg a Sweden, yn ogystal â dal ei gafael ar y Rhif 1 yn Siart Clasurol y Billboard yn yr Unol Daleithiau am 23 wythnos.
Yn ogystal â chyhoeddi Atgof o’r Sêr, Er Hwylio’r Haul, Cân y Ddraig (caneuon i blant), ac amryw o ddarnau mewn cyfrolau eraill, mae Curiad hefyd wedi cyhoeddi nifer o’i ganeuon corawl unigol, gan gynnwys Dyrchafaf fy Llygaid (SATB), Diamonds that shine in the night / Sêr yn disgleirio’n yr hwyr (SSA), Clodforaf Di (SSA), Brenin y Sêr (SATB), Agnus Dei (SATB, TTBB, SA) a Benedictus (SATB, TTBB, SSAA, SA). Am ragor o wybodaeth gweler www.robatarwyn.co.uk
Dangos 26–36 o 36 o ganlyniadau
-
Lux aeterna / Bythol olau
Robat ArwynCerddoriaeth Gorawl£1.75 -
Lux aeterna / Bythol olau
Robat ArwynCerddoriaeth Gorawl£1.75 -
Mae’r sêr yn canu
Robat ArwynCerddoriaeth Gorawl£2.25 -
Merched!
Robat ArwynCerddoriaeth Gorawl£2.25 -
Myfi wyf gân / I am the song
Robat ArwynCerddoriaeth Gorawl£2.25 -
O’r Sioe
AmrywiolLlyfrau Canu£10.99 -
Salm 121: Dyrchafaf Fy Llygaid
Robat ArwynCerddoriaeth Gorawl£2.25 -
Sêr yn disgleirio’n yr hwyr / Diamonds that shine
Robat ArwynCerddoriaeth Gorawl£2.25 -
Sion a Siân
Robat ArwynCerddoriaeth Gorawl£2.25 -
Sioni Wynwns
Robat ArwynCerddoriaeth Gorawl£2.25 -
Unawdau 2000
AmrywiolLlais isel£9.99