Robat Arwyn

Yn enedigol o Dalysarn, Dyffryn Nantlle, cafodd Robat Arwyn ei addysg yn Ysgol Gynradd Talysarn ac Ysgol Uwchradd Dyffryn Nantlle. Mae ganddo radd mewn Cerddoriaeth o Brifysgol Caerdydd a Diploma mewn Llyfrgellyddiaeth o Aberystwyth. Mae’n aelod o Gôr Rhuthun a’r Cylch ers 1981, yn cyfeilio a chyfansoddi ar ei gyfer ers 1987, ac yn arwain y côr ers 2007. Bellach wedi ymddeol o’i waith, mae Robat Arwyn yn brysur yn cyfansoddi ac yn beirniadu mewn nifer o Eisteddfodau. Mae hefyd yn cyflwyno cyfres o gerddoriaeth amrywiol ar Radio Cymru ar foreau Sul. Mae’n briod â Mari, ac mae ganddynt ddau o blant.
Ysgrifennodd Atgof o’r Sêr ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych 2001, a chafodd Benedictus (allan o Er hwylio’r haul, gwaith comisiwn Eisteddfod Genedlaethol Eryri 2005) ei recordio’n wreiddiol gan Bryn Terfel a Rhys Meirion, cyn i The Priests ei chynnwys ar eu halbwm glasurol gyntaf yn 2008. Cyrhaeddodd honno Rhif 1 yn Iwerddon a Norwy, y 10 Uchaf yn y Ffindir, Seland Newydd, Sbaen, y Deyrnas Unedig, Denmarc, Gwlad Belg a Sweden, yn ogystal â dal ei gafael ar y Rhif 1 yn Siart Clasurol y Billboard yn yr Unol Daleithiau am 23 wythnos.
Yn ogystal â chyhoeddi Atgof o’r Sêr, Er Hwylio’r Haul, Cân y Ddraig (caneuon i blant), ac amryw o ddarnau mewn cyfrolau eraill, mae Curiad hefyd wedi cyhoeddi nifer o’i ganeuon corawl unigol, gan gynnwys Dyrchafaf fy Llygaid (SATB), Diamonds that shine in the night / Sêr yn disgleirio’n yr hwyr (SSA), Clodforaf Di (SSA), Brenin y Sêr (SATB), Agnus Dei (SATB, TTBB, SA) a Benedictus (SATB, TTBB, SSAA, SA). Am ragor o wybodaeth gweler www.robatarwyn.co.uk
Dangos 1–25 o 41 o ganlyniadau
-
A gwnaeth y sêr
Robat ArwynCerddoriaeth Gorawl£2.25 -
A Gwnaeth y Sêr
Robat ArwynCerddoriaeth Gorawl£2.25 -
Agnus Dei / Oen Duw
Copi Digidol Ar GaelRobat ArwynCerddoriaeth Gorawl£2.50 -
Agnus Dei / Oen Duw
Robat ArwynCerddoriaeth Gorawl£2.25 -
Agnus Dei / Oen Duw
Robat ArwynCerddoriaeth Gorawl£2.25 -
Agnus Dei / Oen ein Duw (deuawd)
Copi Digidol Ar GaelRobat ArwynCerddoriaeth Gorawl£3.99 – £5.00 -
Atgof o’r Sêr / The Memory of Stars
Robat ArwynCerddoriaeth Gorawl£10.99 -
Barcud ar y gwynt
Robat ArwynCerddoriaeth Gorawl£2.35 -
Bendigedig / Benedictus – Robat Arwyn SATB
Robat ArwynCerddoriaeth Gorawl£2.35 -
Bendigedig / Benedictus – Robat Arwyn TTBB
Robat ArwynCerddoriaeth Gorawl£2.35 -
Benedictus (deuawd) /Bendigedig
Copi Digidol Ar GaelRobat ArwynCerddoriaeth Gorawl£3.99 – £5.50 -
Benedictus / Bendigedig – Robat Arwyn SSAA
Robat ArwynCerddoriaeth Gorawl£2.35 -
Boed Noël
AmrywiolLlyfrau Canu£11.99 -
Brenin y Sêr
Robat ArwynCerddoriaeth Gorawl£2.25 -
Bydd Myrdd o Ryfeddodau (BABEL) – TTBB
Robat ArwynCerddoriaeth Gorawl£2.35 -
Cân y ddraig
Robat ArwynLlyfrau Canu£9.99 -
Cerdded hyd y llethrau
Robat ArwynCerddoriaeth Gorawl£2.25 -
Clodforaf Di
Robat ArwynCerddoriaeth Gorawl£2.25 -
Cymru a’r Gân / Singing Welsh
Caryl Parry Jones, Mal Pope, Robat ArwynAdnoddau Dysgu£15.99 -
Draw yng Ngwlad Iwdea
Robat ArwynCerddoriaeth Gorawl£1.40 -
Er hwylio’r haul
Robat ArwynCerddoriaeth Gorawl£12.99 -
Ffrindiau / Friends
AmrywiolAdnoddau Dysgu£15.99 -
Hanes creu popeth yn y byd
Robat ArwynCorawl£12.99 -
Lle mae llais yn cyffwrdd (unawd llais isel)
Copi Digidol Ar GaelRobat ArwynLlais isel£3.00 -
Lle mae llais yn cyffwrdd (unawd llais uchel)
Copi Digidol Ar GaelRobat ArwynLlais uchel£3.00