Richard Vaughan

Graddiodd Richard o Royal Holloway, Prifysgol Llundain, ac mae’n bianydd medrus sydd wedi ennill yn Eisteddfod yr Urdd ddwywaith gan gynnwys gwobr pianydd yr ðyl. Mae wedi chwarae piano ar draws Ewrop gan gynnwys lle preswyl Llysgenhadwr Prydain ac yn Yr Eglwys yn y Graig yn Helsinki. Mae Richard yn cyfeilio yn reolaidd ar raglenni S4C, ac yn aml yngerddor sesiwn gyda’r British Simfonietta, Welsh Session Orchestra a’rNovello Orchestra.

Ar ôl bod yn is-arweinydd a chyfeilydd Côr CF1, ac athro llais gydag ysgolBig Talent yng Nghanolfan y Mileniwm, daeth yn arweinydd Côr y Gleision yn Medi 2010, gan ennill sawl gwobr anrhydeddus gyda’r côr. Mae wedi bod yn diwtor piano ers yn 15 oed, ac yn parhau i roi gwersi preifat. Mae hefyd wedi gweithio fel Ymchwilydd a Chynorthwy-ydd Cerddorol ar nifer o raglenni teledu. Cyfansoddodd y gerddoriaeth ar gyfer y cynhyrchiad i blant, Herio’r Ddraig, y ffilm Pianissimo ar S4C,a’r ffilm fer Fi a Miss World. Mae wedi cyhoeddi sawl darn corawl, ac mae galw mawr cynyddol am eigyfansoddiadau a’i drefniannau yng Nghymru a thu hwnt.

Digidol/Caled

Categori Cynnyrch

Iaith

Genre

Offeryn

Cyfeiliant