Lyn Davies
Ganed yn Llandybie, Sir Gaerfyrddin yn 1955. Yn gyfansoddwr hynod gynhyrchiol, derbyniodd Lyn Davies Ph. D. o Brifysgol Cymru ym 1983. Bu hefyd yn astudio cyfansoddi yng Ngwlad Pwyl yn yr Academi Cerdd yn Krakow gyda Penderecki, Schaffer, Buijarski a Stachowski. Wedi gyrfa lwyddiannus fel canwr penderfynodd ganolbwyntio ar waith academaidd a chyfansoddi yn 1990. Mae ei arddull yn cynnwys rhai darnau cyweiriol ond llawer o’i weithiau siambr a phiano yn fwy uchelgeisiol wrth ddefnyddio anghyseinedd fel sail i’r cyfansoddiad.
Showing the single result