Gareth Glyn

Mae Gareth Glyn, sy’n enedigol o Fachynlleth, yn gyfansoddwr llawn-amser sydd wedi byw yn Sir Fôn ers 1978. Mae’r ynys, drwy ei thirlun, hanes a chwedloniaeth, yn parhau i fod yn ddylanwad allweddol ar ei waith.

Mae ei gannoedd o gyfansoddiadau yn cynnwys symffoni, consiertos, agorawdau a darnau cerddorfaol eraill. Mae ei ddarnau corawl yn ffefrynnau gan gorau o bob safon drwy Gymru a thu hwnt; mae rhai o’i ganeuon unawdol, megis Llanrwst , yn rhan o repertoire sawl canwr proffesiynol a blaenllaw.

Cyfansoddodd y gerddoriaeth ar gyfer nifer o ddramáu cerdd gan gynnwys Magdalen, 3-2-1 a Gwydion, a cafodd ei opera Wythnos yng Nghymru Fydd (a deithiodd drwy Gymru yn 2017) ei dyfarnu’r Cynhyrchiad Gorau yn yr Iaith Gymraeg yng Ngwobrau Theatr Cymru 2018.

Showing the single result

Categori Cynnyrch

Iaith

Offeryn

Cyfeiliant